BroAber 360
Online/Digital
Local stories from local people. North Ceredigion communities local website. Part of the @Bro360 plan by the Golwg company. Source
Actions
Media Outlet details
| Scope | Local |
|---|---|
| Language | English |
| Country | United Kingdom |
|
Similarweb UVM |
Request pricing |
|
Comscore UVM |
Request pricing |
Recent Articles
Search ArticlesCôr Cardi-Gân yn codi arian i HAHAV Ceredigion
Ym mis Mai 2025, cynhaliodd Côr Cardi-Gân noson ‘Côr-tastig Ceredigion 2025’ yn Ysgubor ‘Y Fuwch Fibis’, Llwyncelyn, ger Aberaeron. Roedd y noson yn gyfle i’r gymuned ddod ynghyd i fwynhau cerddoriaeth, canu a chystadlu mewn awyrgylch ysgafn, hwyliog a bywiog, yn dilyn llwyddiant y digwyddiad y flwyddyn cynt. HAHAV Ceredigion oedd elusen y flwyddyn i Gôr Cardi-Gân, a rhoddwyd holl elw’r noson tuag at yr elusen, ynghyd â’r arian a godwyd mewn dwy noson o ganu carolau o gwmpas y sir.
Meeke yn meistroli’r hewlydd cul
Unwaith iddynt fynd ar y blaen ar gymal Aberffrwd, bore Sadwrn, doedd neb yn mynd i ddal Kris Meeke a Noel O’Sullivan (Toyota GR Yaris) ddydd Sul. Ac yn wir ymestyn ei fantais wnaeth Meeke dros gymalau Gorsgoch a Thŷ Glyn i ennill yn gymharol gyfforddus. Roedd gwên lydan ar wyneb Meeke ar y podiwm bnawn Sul yn Aberystwyth ac fe ddwedodd mai dyma’r rali tarmac gorau mae wedi rasio.
Meeke yn camu i’r brig
Rhoddodd un camgymeriad gan Teemu Suninen ar gymal cyntaf bore Sadwrn y cyfle i Kris Meeke gamu i frig Rali Ceredigion unwaith eto. Ac am weddill y dydd adeiladodd Meeke ei fantais dros Suninen, sy’n ail, i ugain eiliad. Miko Marczyk o Wlad Pwyl sy’n drydydd, dros 27 eiliad o flaen un arall o wlad Pwyl sef Jakus Matulka. Ac eithrio damwain neu broblem fecanyddol, mae’n anodd gweld Suninen yn dal Meeke.
Suninen yn saethu i’r blaen
Wedi pedwar cymal o Rali Ceredigion, y gŵr o’r Ffinir Teemu Suninen, mewn Skoda Fabia RS, sydd ar y blaen nos Wener, gyda Kris Meeke mewn Toyota GR Yaris yn dyn ar ei sodlau. Dim ond 0.9 eiliad sydd rhwng y ddau. Roedd yr hen feistr, Kris Meeke, wrth ei fodd ac yn amlwg heb golli dim o’i ddoniau. Roedd y Gwyddel ar dân ar gymal un a dau ar hyd Prom Aberystwyth. Gosododd yr amseroedd cyflymaf ar y ddau gymal (yn gydradd a Mabellini ar y cymal cyntaf) i arwain Rali Ceredigion.
Lansio Penwythnos Rali Ceredigion
Daeth cannoedd ynghyd ar y Prom yn Aberystwyth ar gyfer seremoni dechrau’r Rali ac i gael cipolwg ar y prif yrwyr a’u ceir. Roedd yn braf clywed acenion o bob rhan o Gymru, Prydain a thu hwnt yn paratoi i fwynhau cystadlu o’r radd flaenaf. Yn ogystal â’r frwydr i ennill y Rali, mae Rali Ceredigion yn rhoi cyfle i’r gyrwyr ennill pwyntiau tuag at nifer o bencampwriaethau. Gyda’r tymor yn tynnu tua’i derfyn, bydd cryn frwydro am bob pwynt.
Record byd i gyn-chwaraewr rygbi wrth ymweld ag Aberystwyth
Mae rhedeg 50km mewn diwrnod unwaith yn dipyn o her. Ond beth am y syniad o redeg y pellter hwnnw unwaith y dydd am gan niwrnod ar ôl ei gilydd? Dyna yw camp y cyn-chwaraewr rygbi proffesiynol David ‘Jacko’ Jackson wrth iddo ymweld ag Aberystwyth. Mae’n nesáu at ddiwedd ei her anhygoel, sydd wedi gosod record byd newydd – a chodi arian at elusennau haeddiannol yr un pryd. Gan gychwyn ar 29 Mai, ei nod gyda Mission IN-possible yw cwblhau’r her yng Nghaernarfon ar 5 Medi.
Rali Ceredigion 2026
Dydd Iau nesaf (03/09/26) bydd bron i gant a hanner o yrwyr rali o ddeunaw o wledydd yn dod ynghyd yn Aberystwyth ar gyfer chweched Rali Ceredigion. Dewch i’r Prom ar brynhawn dydd Iau i gael blas o’r cyfan. Bydd cyfle i weld ceir rhai o’r prif yrwyr, cyfweliadau a sesiwn llofnodi gyda’r gyrwyr ac yna’r seremoni i ddechrau’r ras. Bydd y cyfan ar brynhawn Iau yn rhad ac am ddim gan ddechrau am 4:30pm.
Llwyddiant ❤ Arad Goch yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Roedd hi’n wythnos hynod gyffrous a llwyddiannus i Arad Goch yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, gyda chyfleoedd i gwrdd â’r cyhoedd, rhannu ein gwaith a chreu profiadau theatrig a chreadigol i gynulleidfaoedd o bob oed. 📆Dydd Llun – Arad Goch ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol Dechreuodd yr wythnos yn wych gyda diwrnod prysur a bywiog ar stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fel rhan o’r sesiwn “Tu ôl i’r Llen – Holi a Sgwrsio – Arad Goch”.
Dŵr yn llifo yn Llangawsai
Mae toriad yn y brif biben ddŵr yn Llangawsai wedi golygu fod y A44 wedi cau rhwng Llanbadarn Fawr ag Aberystwyth. Roedd ychydig o ddŵr i’w weld ar ymyl y ffordd ddoe (Iau) ond roedd lawer mwy o ddŵr yn gollwng ar draws y ffordd y bore ‘ma. Bellach mae gweithwyr wedi cyrraedd i drwsio’r biben. Mae’r fideo uchod yn dangos maint y dŵr sy’n gollwng o’r biben. Mae’r gweithwyr yn gobeithio y bydd y biben wedi ei drwsio cyn diwedd y dydd.
Canu er mwyn sicrhau dŵr glân i bobl ledled y byd
Ar ddiwrnod poeth iawn ynghanol Gorffennaf daeth dros 100 o gantorion o bob rhan o Gymru ynghyd ar y prom yn Aberystwyth i gydganu ac i godi arian i WaterAid.