Môn360
Online/Digital
Straeon lleol gan bobol leol. Gwefan fro Ynys Môn. Yn rhan o gynllun Bro360 gan Golwg. Source
Actions
Media Outlet details
| Scope | Local |
|---|---|
| Language | Welsh |
| Country | United Kingdom |
|
Similarweb UVM |
Request pricing |
|
Comscore UVM |
Request pricing |
Recent Articles
Search ArticlesCynllun rhannu peiriannau i gefnogi ffermwyr a thyfwyr gogledd Cymru
Mae ffermwyr a thyfwyr ledled gogledd Cymru yn cael eu gwahodd i ddysgu mwy am gynllun rhannu peiriannau newydd yn Sioe Amaethyddol Môn, cyn iddo gael ei lansio yr hydref hwn. Wrth i ffermwyr a busnesau gwledig ymgynnull ar Faes Sioe Môn ar gyfer prif ddigwyddiad amaethyddol y sir, mae Menter Môn yn manteisio ar y cyfle i gyflwyno Cylch Peiriannau Gogledd Cymru i’r bobl y mae wedi’i greu i’w cefnogi.
Adfer adeilad hanesyddol yng Nghaergybi fel rhan o gynllun adfywio canol tref
Mae asiantaeth dai adnabyddus yng Nghaergybi wedi datgelu blaen siop sydd wedi’i adfer yn dilyn buddsoddiad sylweddol wedi ei gefnogi drwy gynllun adfywio canol tref Cyngor Sir Ynys Môn. Mae swyddfa Williams & Goodwin ar Stryd Stanley, wedi cael ei drawsnewid fel rhan o raglen Treftadaeth Tirlun Trefol Caergybi sy’n adfer adeiladau a blaenau siopau hanesyddol ar draws canol y dref.
Eisteddfod Bro Llandegfan
Cafwyd Eisteddfod i’w chofio yn Llandegfan eleni gan 22 Gorffennaf 2026 Ar ddiwrnod braf (heb fod yn rhy boeth!) cafwyd eisteddfod ragorol yn Llandegfan Dydd Sadwrn 4 Gorffennaf. Roedd y dydd yn llawn bwrlwm o gystadlu plant a’r neuadd yn llawn i’w cefnogi. Roedd y beirniaid , Ceren Lloyd, Caernarfon ac Andrea Parry, Y Bala yn hapus iawn efo’r safon drwy’r dydd. Roedd y cystadlaethau cerddorol i gyd yn manteisio ar ddawn arbennig ein cyfeilydd, AnnPeters Jones, Bodedern.
Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Môn Bro Parys 2027
Wel, am ddiwrnod arbennig a gafwyd ddiwedd Mehefin yn Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Môn Bro Parys 2027. Gallwn ymfalchîo yn ein bro i allu cynnal digwyddiad o’r fath.
Blodau’r Goeden Afalau
Blodau’r Goeden Afalau (Malus domestica) “Mae’r goeden ‘falau ym mhen yr ardd Yn un rhyfeddod o flodau hardd” ac ydi mae hi. Geiriau hynod gyfarwydd T. Rowland Hughes, wrth gwrs, ac rydw innau hefyd wedi rhyfeddu sawl gwaith at y goeden afalau. Mae gen i un neu ddwy yn yr ardd ac maen nhw’n eithriadol o hardd, yn gawod o betalau gwyn hefo gwawr goch ar yr ochr isaf i’r petal, a’r antherau’n lliw oren-frown cyfoethog.
Ffilm newydd yn adrodd hanes Cybi a Seiriol
Erin Pererin sy’n ein tywys ar lwybr Cybi a Seiriol. Bydd ffilm animeiddiedig ddwyieithog am ddau o seintiau mwyaf adnabyddus Cymru yn cael ei dangos am y tro cyntaf yn Gymraeg yn ystod Oedfa’r Urdd, gwasanaeth Sul Eisteddfod yr Urdd, ar 24 Mai 2026 ar Faes Sioe Môn. Enillodd Stori Cybi a Seiriol (The Story of Cybi and Seiriol) wobrau am y Ffilm Addysgol Orau a’r Ffilm Animeiddiedig Orau yng Ngŵyl Ffilm Gristnogol 2026 sydd wedi’i lleoli yn Florida.
Yr Ysgawen
Yr ysgawen (Sambucus nigra; Elder) Mae’r ysgawen yn ei blodau. “Ia, a ….”, dwi’n eich clywad chi’n deud, “so what” mewn Cymraeg byw. Wel y rheswm mod i’n rhyfeddu ydi hyn: darllenwch chi unrhyw lyfr blodau gwyllt ac mi fyddan yn nodi yn gwbl bendant mai amser y goeden hon i flodeuo ydi Mehefin a Gorffennaf. Diwedd Mai ydi hi wrth i mi sgwennu’r pwt yma. Ag ydi, mae’n ymddangos fod y goeden hon fel sawl blodyn a llwyn arall wedi blodeuo yn rhyfeddol o gynnar.
Mr. Urdd yn Ymuno â’r Menai Muttineers ar Ynys Môn
Croeso i Eisteddfod yr Urdd Môn! Gan fod yr Urdd yn cael ei chynnal ar Ynys Môn am y tro cyntaf ers 2004, roedd y Menai Muttineers yn meddwl y byddem ni’n cael ychydig o hwyl a dod â “Mr. Urdd” draw i fyd Chwimbel! Aeth ein Mr. Urdd bach ar ei deithiau wythnos diwethaf. Cafodd ymweld â thrac rasio Môn, chwarae gyda’r anifeiliaid ar y fferm, a gweld rhai o’r pethau gorau sydd gan yr ynys i’w cynnig.
Enillydd rhyddiaith cynradd cystadleuaeth Pont y Borth
PONT BORTH Fy enw i yw Bont Grog y Borth. Rwyf wedi sefyll fel gwarchodwr balch y Fenai am ddwy ganrif eleni, sef 2026. Cefais fy adeiladu gan beriannydd gorau’r byd yn fy marn i, sef Thomas Telford nôl yn 1826. Fi yw’r bont ddelaf yng Nghymru, oherwydd fy nghain arloesol o’r 19eg ganrif. Yr wyf wedi gweld, clywed ac arogli pethau na fedrwch chi ond medru dychmygu yn eich amser prin ar y ddaear ‘ma.
Wythnos Ysgol Gyfun Llangefni yn Eisteddfod yr Urdd
Gydag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar stepen ein drws eleni, roeddem fel ysgol yn awyddus i chwarae rhan lawn yn y dathliadau. Roedd arwyddion lliwgar “Hei Mistar Urdd!” i’w gweld ar hyd a lled Ynys Môn, ac yn barod i groesawu ymwelwyr o bob cwr o Gymru. Roedd yn amlwg fod awyrgylch arbennig yr Eisteddfod wedi cyrraedd Môn Mam Cymru. Cychwynnodd yr wythnos gyda phenwythnos Triban a fynychwyd gan lawer o staff a disgyblion yr ysgol.