Ffynhonnell y llun, Llun teulu Disgrifiad o’r llun, Mae teulu Tate yn gobeithio codi £1.5m i fynd i'r Unol Daleithiau i gael triniaeth arbenigol GanGarry Owen BBC Cymru Cyhoeddwyd 1 awr yn ôl Mae mam bachgen pump oed sydd â chyflwr genetig prin iawn yn dweud mai'r unig obaith iddo yw cyffur newydd sy'n cael ei ddatblygu yn yr Unol Daleithiau. Dywed Tammy McDaid o Abertawe bod dim modd gwella na thrin ei mab Tate yn y Deyrnas Unedig.