Ffynhonnell y llun, Getty Images Disgrifiad o’r llun, Fe fydd Cymru yn chwarae yng ngrŵp B gyda'r Alban, Canada a Fiji Mae prif hyfforddwr tîm merched Cymru, Sean Lynn, wedi cyhoeddi ei garfan o 32 o chwaraewyr ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd. Y blaenwyr Alex Callender a Kate Williams fydd yn arwain Cymru yn y gystadleuaeth ar ôl cael eu dewis fel cyd-gapteiniaid. Capten tîm Cymru dan-20, Branwen Metcalfe yw'r unig chwaraewr sydd heb ennill cap llawn i gael ei chynnwys yn y garfan.