Ffynhonnell y llun, S4C GanLlio Rhys, BBC Cymru Fyw a Cerys Matthews, Cyflwynydd Stori'r Iaith Cyhoeddwyd 11 munud yn ôl "Dyna sy'n diddori fi – atsain iaith dros y blynydde a dros ffinie." Dyna eiriau'r gantores a'r cyflwynydd Cerys Matthews, sydd wedi cael y cyfle i ddysgu mwy am ei mamiaith yng nghyfres Stori'r Iaith ar S4C. Ac un o'r pethau roedd ar dân i'w ddysgu oedd y dylanwad mae'r Gymraeg a Chymru wedi ei gael ar ieithoedd a diwylliannau eraill. "Hooligan, brogue, galore, corse...